Skip to main content

Hobi neu brosiect pres poced?

Deall y rheolau treth ar gyfer prosiectau pres poced

Gwyliwch y dudalen hon yn Iaith Arwyddion Prydain

Ydych chi’n ennill arian o hobi neu waith arall y tu allan i’ch prif swydd? Boed hynny’n enillion achlysurol neu ail incwm rheolaidd, mae yna reolau treth y mae’n rhaid i bawb eu dilyn. O roi gwersi a gwerthu pethau ar-lein i waith dosbarthu pecynnau a cherdded cŵn, dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

Wedi gwneud mwy na £1,000 o’ch prosiect pres poced?  

Yna mae wedi tyfu’n fwy na hobi. Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF er mwyn osgoi unrhyw syrpreisys o ran treth. Does dim gwahaniaeth p’un a ydych chi wedi cael y pres fel arian yng nghledr eich llaw neu yn syth i’ch cyfrif banc.    

Beth sydd gyda ni dan sylw yw’ch holl incwm o brosiectau pres poced rhwng 6 Ebrill 2025 a 5 Ebrill 2026. 
Dyma’r swm rydych chi’n ei ennill cyn ystyried treuliau. Nid yw hyn yr un peth ag elw.

Os ydych chi’n gwerthu eiddo personol diangen o bryd i’w gilydd, mae’n debyg nad oes angen i chi roi gwybod i CThEF ond mae’n syniad da gwirio hynny i wneud yn siŵr.

Ddim yn siŵr os yw hyn yn berthnasol i chi?   

A yw’n hobi neu’n brosiect pres poced? Dewiswch eich prosiect pres poced isod i ddysgu rhagor      

Gwerthu pethau

Beth sydd angen i chi ei wybod os ydych chi’n gwneud neu’n prynu eitemau i’w gwerthu – gan gynnwys rheolau treth wrth werthu ar-lein

Woman on a laptop holding a cup of coffee surrounded by flamingos

Darparu gwasanaeth

Deall y rheolau treth ar gyfer dosbarthu pecynnau, rhoi gwersi, a gwaith gwasanaeth arall

A man surrounded by boxes for delivery

Creu cynnwys 

O negeseuon o dan nawdd i gydweithio â brandiau, dysgwch y rheolau treth i’w dilyn os ydych chi’n creu cynnwys.

A woman stood in a hair salon.

Pam mae’n bwysig dilyn y rheolau treth ar gyfer prosiectau pres poced    

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i CThEF am eich incwm ychwanegol, pan fydd angen i chi wneud hynny. Os na wnewch hynny, gallech wynebu biliau treth a chosbau annisgwyl.

Ateb eich cwestiynau

Sut ydw i’n gwybod a yw’n hobi neu’n brosiect pres poced?     

Os ydych chi’n ennill arian ychwanegol y tu allan i’ch prif swydd ac rydych chi’n gwneud dros £1,000 mewn blwyddyn dreth, yna mae wedi tyfu’n fwy na hobi. Dyna pryd bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm ychwanegol. 

Mae gen i brif swydd a dwi’n cael fy nhalu drwy TWE. Ydy’r drefn hon hefyd yn sortio unrhyw dreth sydd arnaf o brosiectau pres poced yn awtomatig?

Nac ydy. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i CThEF am arian rydych chi’n ei wneud “ar yr ochr” fel petai, nid cyfrifoldeb eich prif gyflogwr. Nid yw’ch incwm o brosiectau pres poced yn cael ei nodi ar eich slip cyflog. Os na fyddwch chi’n rhoi gwybod i CThEF am yr enillion ychwanegol hynny, efallai y byddwch chi’n cael cosb.    

Beth os ydw i’n cael slip cyflog am fy mhrosiect pres poced, er enghraifft os ydw i’n gweithio mewn bar gyda’r nos yn ychwanegol i’m prif swydd?

Os ydych chi’n cael slip cyflog, fel arfer bydd eich treth yn cael ei sortio’n awtomatig, felly bydd dim angen i chi roi gwybod i ni amdano drwy Hunanasesiad. Ond cofiwch, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os ydych chi’n credu eich bod wedi gordalu neu dandalu treth ar unrhyw slipiau cyflog. Mae’n ychydig yn wahanol os ydych chi eisoes yn llenwi Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Ond, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos unrhyw dreth sydd eisoes wedi’i didynnu o’ch slipiau cyflog (drwy TWE) ar eich Ffurflen Dreth.

Ydw i’n gallu ennill hyd at £1,000 yn rhydd o dreth ar gyfer pob un o fy mhrosiectau pres poced?

Na – mae gennych un lwfans sy’n rhydd o dreth o £1,000 ar gyfer pob blwyddyn dreth. Mae unrhyw beth rydych chi’n ei ennill o wahanol fathau o brosiectau pres poced yn cyfrif tuag at hyn. 

Er enghraifft, os ydych chi’n ennill £800 wrth greu cynnwys a £500 wrth werthu crefftau ar-lein, mae hynny’n dod i £1,300. Byddai angen i chi roi gwybod i CThEF am ei fod yn uwch na’r lwfans o £1,000.  

Beth sy’n digwydd os dydw i ddim yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad nac yn talu treth ar fy incwm prosiect pres poced pan ddylwn i?   

Os oedd angen i chi dalu treth ar eich incwm, ond na wnaethoch chi roi gwybod i ni amdano, efallai y byddwch yn cael cosb. Mae CThEF hefyd yn codi llog ar unrhyw dreth a delir yn hwyr, felly po hiraf y byddwch chi’n gohirio ei thalu, y mwyaf a allai fod arnoch chi. Efallai y byddwch hefyd yn cael cosbau os nad ydych chi’n talu’ch treth mewn pryd.

Ddylwn i gadw cofnodion o beth rydw i’n ei brynu a’i werthu?

Dylech, yn hollol. Eich cyfrifoldeb chi yw cadw cofnodion llawn a chywir o’r holl werthiannau, incwm a threuliau busnes – hyd yn oed os ydych chi’n defnyddio asiant treth neu gyfrifydd. Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch i lenwi eich Ffurflenni Treth yn gywir. Darllenwch ragor am gadw eich cofnodion cyflog a threth.       

Alla i ddefnyddio asiant treth neu gyfrifydd i helpu?   

Gallwch benodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan fel ffrind, perthynas neu asiant treth fel cyfrifydd neu lyfrifwr.  

Beth os na wnes i dalu treth ar fy incwm prosiect pres poced ar gyfer blynyddoedd blaenorol?    

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw trefn ar eich materion treth – gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r hyn sydd arnoch cyn gynted ag y gallwch, a siaradwch â ni cyn gynted â phosibl os nad ydych chi wedi talu hyn ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.  Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud os nad ydych chi wedi rhoi gwybod i CThEF am yr incwm.   

Rydyn ni yma i helpu pobl i fod ar y trywydd iawn gyda’u trethi ac osgoi unrhyw ddirwyon neu gosbau. Mae ein gwasanaethau cymorth yn gallu helpu i ddod o hyd i ffordd ymarferol o roi trefn ar eich materion treth. Er enghraifft, os na allwch chi dalu’ch bil treth yn llawn, mae’n bosibl y gallwch drefnu cynllun talu er mwyn i chi dalu fesul rhandaliad. Yr enw ar hyn yw trefniant ‘Amser i Dalu’.  

Byddwn ni bob amser yn ceisio datrys unrhyw broblemau a dod o hyd i ateb. 

Clywais i nad oes angen i mi wneud dim byd hyd nes i mi ennill dros £3,000?  

Nid yw hynny’n wir. Os ydych chi’n ennill dros £1,000 o brosiectau pres poced, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF o hyd.  

Ar hyn o bryd, rydych chi’n rhoi gwybod i CThEF drwy gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Fodd bynnag, mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod offeryn rhoi gwybod ar-lein newydd ar ei ffordd erbyn 2029.   

Pan fydd e’n fyw, byddwch chi’n gallu ei ddefnyddio i roi gwybod i CThEF os ydych chi’n ennill rhwng £1,000 a £3,000 o brosiectau pres poced – yn hytrach na gorfod cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Dylai hyn fod ychydig yn llai o waith i chi, a dylai arbed amser i chi hefyd. Byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon unwaith y bydd yr offeryn rhoi gwybod newydd yn barod i fynd. Ond am y tro, gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm i weld yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.  

Wedi gwneud arian o brosiectau pres poced? Gwiriwch a oes angen i chi dalu treth

Defnyddiwch ein hofferyn gwirio i gael gwybod drwy ateb ychydig o gwestiynau syml. Mae’n ddienw ac fel arfer ond yn cymryd ychydig funudau.

Help a chymorth 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, gofynnwch i CThEF ar-lein. Rydym hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol os oes gennych gyflwr iechyd neu amgylchiadau personol sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi gysylltu â CThEF. 

Mynd trwy wiriad cydymffurfio treth? Defnyddiwch ein hofferyn ar-lein i’ch tywys drwy’r cymorth sydd ar gael.

Lawrlwythwch ap CThEF

Gallwch ‘fynd amdani’ i reoli’ch treth, Yswiriant Gwladol a budd-daliadau, yn gyflym ac yn hwylus. Dysgwch fwy am ap CThEF ar GOV.UK

Rhowch eich barn

Rydyn ni eisiau clywed eich barn am y wefan hon i’n helpu i’w gwella.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi.

Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.