O werthu ar-lein a rhoi gwersi, i ddosbarthu nwyddau a mynd â chŵn am dro, mae sawl ffordd o wneud arian y tu allan i’ch prif swydd. Ond, oeddech chi’n sylweddoli bod rhaid dilyn rheolau treth os oes gennych chi brosiectau pres poced? Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Wedi gwneud mwy na £1,000 o’ch prosiect pres poced?
Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF er mwyn osgoi unrhyw syrpreisys o ran treth. Does dim gwahaniaeth p’un a ydych chi wedi cael y pres fel arian yng nghledr eich llaw neu yn syth i’ch cyfrif banc.
Beth sydd gyda ni dan sylw yw’ch holl incwm o brosiectau pres poced rhwng 6 Ebrill 2024 a 5 Ebrill 2025.
Os ydych chi’n gwerthu eiddo personol diangen o bryd i’w gilydd, mae’n debyg nad oes angen i chi roi gwybod i CThEF ond mae’n syniad da gwirio hynny i wneud yn siŵr
Ddim yn siŵr os yw hyn yn berthnasol i chi?
Dewiswch eich prosiect pres poced isod i ddysgu rhagor
Gwerthu pethau
Beth sydd angen i chi ei wybod os ydych chi’n gwneud neu’n prynu eitemau i’w gwerthu – gan gynnwys rheolau treth wrth werthu ar-lein
Darparu gwasanaeth
Deall y rheolau treth ar gyfer gyrru nwyddau i’w dosbarthu, rhoi gwersi, a gwaith gwasanaeth arall
Creu cynnwys
O negeseuon o dan nawdd i gydweithio â brandiau, dysgwch y rheolau treth i’w dilyn os ydych chi’n creu cynnwys
Pam mae’n bwysig dilyn y rheolau treth ar gyfer prosiectau pres poced
Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i CThEF am unrhyw incwm a gewch o brosiectau pres poced, pan fydd angen i chi wneud hynny. Os na wnewch hynny, mae canlyniadau i’w hwynebu, fel biliau treth a chosbau annisgwyl.
Ateb eich cwestiynau
Mae gen i brif swydd a dwi’n cael fy nhalu drwy TWE. Ydy’r drefn hon hefyd yn sortio unrhyw dreth sydd arnaf o brosiectau pres poced yn awtomatig?
Nac ydy. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i CThEF am arian rydych chi’n ei wneud “ar yr ochr” fel petai, nid cyfrifoldeb eich prif gyflogwr. Nid yw’ch incwm o brosiectau pres poced yn cael ei nodi ar eich slip cyflog. Os na fyddwch chi’n rhoi gwybod i CThEF am yr enillion ychwanegol hynny, efallai y byddwch chi’n cael cosb.
Beth os ydw i’n cael slip cyflog am fy mhrosiect pres poced, er enghraifft os ydw i’n gweithio mewn bar gyda’r nos ar ben fy mhrif swydd?
Os ydych chi’n cael slip cyflog, dylai eich treth eisoes gael ei sortio ar eich cyfer chi, felly does dim angen i chi roi gwybod i ni amdano drwy Hunanasesiad. Ond cofiwch, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os ydych chi’n credu eich bod wedi gordalu neu dandalu treth ar unrhyw slipiau cyflog. Mae’n ychydig yn wahanol os ydych chi eisoes yn llenwi Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Ond, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos unrhyw dreth sydd eisoes wedi’i didynnu o’ch slipiau cyflog (drwy TWE) ar eich Ffurflen Dreth.
Ydw i’n gallu ennill hyd at £1,000 yn rhydd o dreth ar gyfer pob un o fy mhrosiectau pres poced?
Nac ydych – mae gennych un lwfans rhydd o dreth sy’n werth £1,000 (ar gyfer pob blwyddyn dreth). Mae unrhyw beth rydych chi’n ei ennill o wahanol fathau o brosiectau pres poced i gyd yn cyfrif tuag at hyn.
Er enghraifft, os ydych chi’n ennill £800 wrth greu cynnwys a £500 wrth werthu crefftau ar-lein, mae hynny’n dod i £1,300. Byddai angen i chi roi gwybod i CThEF am ei fod yn uwch na’r lwfans o £1,000.
Beth sy’n digwydd os dydw i ddim yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad nac yn talu treth ar fy incwm prosiect pres poced pan ddylwn i?
Os oedd angen i chi dalu treth ar eich incwm, ond os na wnaethoch chi roi gwybod i ni amdano, efallai y byddwch yn cael cosb. Mae CThEF hefyd yn codi llog ar unrhyw dreth a delir yn hwyr – felly po hiraf y byddwch chi’n gohirio ei thalu, y mwyaf a allai fod arnoch chi. Efallai y byddwch hefyd yn cael cosbau os nad ydych chi’n talu’ch treth mewn pryd.
Ddylwn i gadw cofnodion o beth rydw i’n ei brynu a’i werthu?
Yn bendant. Eich cyfrifoldeb chi yw cadw cofnodion llawn a chywir o’r holl werthiannau, incwm a threuliau busnes – hyd yn oed os ydych chi’n defnyddio asiant treth neu gyfrifydd. Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch i lenwi eich Ffurflenni Treth yn gywir. Darllenwch ragor am gadw eich cofnodion cyflog a threth.
Alla i ddefnyddio asiant treth neu gyfrifydd i helpu?
Gallwch benodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan fel ffrind, perthynas neu asiant treth fel cyfrifydd neu lyfrifwr.
Beth os na wnes i dalu treth ar fy incwm prosiect pres poced ar gyfer blynyddoedd blaenorol?
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw trefn ar eich materion treth – gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r hyn sydd arnoch cyn gynted ag y gallwch, a siaradwch â ni cyn gynted â phosibl os nad ydych chi wedi talu hyn ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol. Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud os nad ydych chi wedi rhoi gwybod i CThEF am yr incwm.
Rydyn ni yma i helpu pobl i fod ar y trywydd iawn gyda’u trethi ac osgoi unrhyw ddirwyon neu gosbau. Mae ein gwasanaethau cymorth yn gallu helpu i ddod o hyd i ffordd ymarferol o helpu i roi trefn ar eich materion treth. Er enghraifft, os na allwch chi dalu’ch bil treth yn llawn, mae’n bosibl y gallwch drefnu cynllun talu er mwyn i chi dalu fesul rhandaliad. Yr enw ar hyn yw trefniant ‘Amser i Dalu’.
Byddwn ni bob amser yn ceisio datrys unrhyw broblemau a dod o hyd i ateb.
Clywais i fod dim angen i mi wneud dim byd hyd nes i mi ennill dros £3,000?
Nid yw hynny’n wir. Os ydych chi’n ennill dros £1,000 o brosiectau pres poced, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF o hyd.
Ar hyn o bryd, rydych chi’n rhoi gwybod i CThEF drwy gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Fodd bynnag, mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod offeryn rhoi gwybod ar-lein newydd ar ei ffordd erbyn 2029.
Pan fydd e’n fyw, byddwch chi’n gallu ei ddefnyddio i roi gwybod i CThEF os ydych chi’n ennill rhwng £1,000 a £3,000 o brosiectau pres poced – yn hytrach na gorfod cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Dylai hyn fod ychydig yn llai o waith i chi, a dylai arbed amser i chi hefyd. Byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon unwaith y bydd yr offeryn rhoi gwybod newydd yn barod i fynd. Ond am y tro, gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm i weld yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Wedi gwneud arian o brosiectau pres poced? Gwiriwch a oes angen i chi dalu treth
Defnyddiwch ein hofferyn gwirio i gael gwybod drwy ateb ychydig o gwestiynau syml. Mae’n ddienw ac fel arfer ond yn cymryd ychydig funudau.

Help a chymorth
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, gofynnwch i CThEF ar-lein. Rydym hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol os oes gennych gyflwr iechyd neu amgylchiadau personol sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi gysylltu â CThEF.
Mynd trwy wiriad cydymffurfio treth? Defnyddiwch ein hofferyn ar-lein i’ch tywys drwy’r cymorth sydd ar gael.
Lawrlwythwch ap CThEF
Gallwch ‘fynd amdani’ i reoli’ch treth, Yswiriant Gwladol a budd-daliadau, yn gyflym ac yn hwylus. Dysgwch fwy am ap CThEF ar GOV.UK
Rhowch eich barn
Rydyn ni eisiau clywed eich barn am y wefan hon i’n helpu i’w gwella.
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi.
Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.