Skip to main content

Pam mae dilyn y rheolau treth ar gyfer prosiectau pres poced yn bwysig

Mae’n bwysig o ran gwasanaethau cyhoeddus hanfodol

CThEF sy’n casglu trethi yn y DU. Ni sy’n casglu’r arian sy’n talu am bopeth o ysbytai ac ysgolion, i heolydd a seilwaith hanfodol arall.

Sut ydyn ni’n gwybod a yw pawb yn talu’r dreth gywir?

Mae CThEF yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data trydydd parti i helpu i nodi lle na fyddai treth wedi’i thalu, o bosib.

Er enghraifft, rhaid i lwyfannau ar-lein rannu gwybodaeth benodol gyda CThEF erbyn hyn.

Dysgwch fwy am werthu nwyddau neu wasanaethau ar blatfform digidol ar GOV.UK

Wrth i’ch prosiect pres poced dyfu, gallai unrhyw dreth heb ei thalu ddod o dan y chwyddwydr.

Gallai hyn arwain at fil treth annisgwyl, a hwnnw o bosib yn un sylweddol, os nad ydych wedi rhoi gwybod i ni am yr arian ychwanegol rydych chi wedi bod yn ei ennill. 

Dyna pam mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw trefn ar eich materion treth. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r hyn sydd arnoch cyn gynted ag y gallwch, a siaradwch â ni cyn gynted â phosibl os nad ydych chi wedi talu hyn ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.  

Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud os nad ydych chi wedi rhoi gwybod i CThEF am unrhyw incwm.  

Rydyn ni yma i’ch helpu chi i fod ar y trywydd iawn gyda’ch treth ac osgoi unrhyw gosbau

Mae ein gwasanaethau cymorth yn gallu helpu i ddod o hyd i ffordd ymarferol o helpu i roi trefn ar eich materion treth. Er enghraifft, os na allwch chi dalu’ch bil treth yn llawn, mae’n bosibl y gallwn drefnu cynllun talu er mwyn i chi ei dalu fesul rhandaliad. Gelwir hyn yn drefniant Amser i Dalu.

Byddwn ni bob amser yn ceisio datrys unrhyw broblemau a dod o hyd i ateb.

Defnyddiwch ein teclyn gwirio ar-lein

Y cam cyntaf i gael eich treth yn gywir yw gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich prosiect pres poced ar GOV.UK.

Help a chymorth

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, gofynnwch i CThEF ar-lein. Rydym hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol os oes gennych gyflwr iechyd neu amgylchiadau personol sy’n ei gwneud hi’n anodd cysylltu â CThEF.

Mynd trwy wiriad cydymffurfio treth? Defnyddiwch ein hofferyn ar-lein i’ch tywys drwy’r cymorth sydd ar gael.

Rhowch eich barn

Rydyn ni eisiau clywed eich barn am y wefan hon i’n helpu i’w gwella.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi.

Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.