Skip to main content
A woman photographs a shirt on a hanger using her mobile phone.

Gwerthu pethau

Beth sydd angen i chi ei wybod i gael eich treth yn gywir.

Mae’n bwysig deall pryd mae angen i chi roi gwybod i CThEF am bethau rydych chi wedi’u gwerthu. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr eich bod yn dilyn y rheolau treth wrth werthu ar-lein. Dim ond yn gwerthu eiddo personol diangen o bryd i’w gilydd? Yn amlach na pheidio, does dim rhaid i chi roi gwybod i ni.

Gwerthu pethau rydych chi wedi’u gwneud neu eu prynu? 


Er enghraifft, celf a chrefftau, bwyd a diod, cynhyrchion harddwch ac iechyd, cynhyrchion creadigol digidol, neu ddodrefn wedi’u huwchgylchu – gan gynnwys drwy farchnadoedd ar-lein, safleoedd ocsiwn, a llwyfannau gwerthu.

Wedi ennill mwy na £1,000 ar ben eich prif swydd yn y flwyddyn dreth ddiwethaf? 

Os yw’n dod o wneud neu brynu pethau i’w gwerthu am elw, yn ogystal ag unrhyw brosiectau pres poced eraill, bydd angen i chi roi gwybod i ni. Mae’r flwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill i 5 Ebrill.

Dyma’r swm rydych yn ei ennill cyn ystyried treuliau. Nid yw hyn yr un peth ag elw.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar yr arian a wnaethoch o brosiectau pres poced os oedd cyfanswm eich incwm, gan gynnwys eich prif swydd, yn uwch na’r lwfans personol sylfaenol o £12,570.

Wedi gwneud £1,000 neu lai na hyn? Does dim rhaid i chi roi gwybod i ni am hynny. 

Sut i roi gwybod i CThEF os oes angen i chi wneud hynny

Yn gyntaf, dylech wirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm ychwanegol

Os oes angen i chi roi gwybod i ni am yr arian rydych chi wedi’i wneud o brosiectau pres poced, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad fel unig fasnachwr.  

Mae hynny oherwydd bod CThEF yn debygol o nodi eich prosiectau pres poced fel “masnachu” – gan eich bod yn cael incwm wrth werthu nwyddau neu wasanaethau.

Bydd angen i chi wneud hyn erbyn 5 Hydref.

Os na fyddwch chi’n rhoi gwybod i CThEF pan fydd angen i chi wneud hynny, gallech gael bil treth neu gosb annisgwyl.

Rhai enghreifftiau o werthu 

Rydych chi’n prynu eitemau o werthiannau cist car neu siopau elusen gyda’r bwriad o’u gwerthu am fwy o arian nag y gwnaethoch chi ei dalu amdanyn nhw.
Rydych chi’n uwchgylchu darnau o ddodrefn ail law fel hobi gyda’r bwriad o’u hailwerthu. 

Gwnaethoch chi fwy na £1,000 yn eu gwerthu drwy farchnadoedd lleol a llwyfannau ar-lein rhwng 6 Ebrill 2024 a 5 Ebrill 2025. Mae angen i chi roi gwybod i CThEF am yr arian hwn. 

Rydych chi’n gwneud cardiau cyfarch ac yn eu gwerthu ar-lein.

Gwnaethoch chi dros £1,000 wrth werthu’r cardiau, felly mae angen i chi roi gwybod i CThEF.

Rydych chi’n prynu bwndeli o ddillad fintij, ac yn eu hailwerthu’n unigol drwy lwyfannau gwerthu ar-lein neu apiau er mwyn gwneud elw.

Rydych chi’n defnyddio dau blatfform gwerthu gwahanol. Un i restru crysau-t ffilmiau retro. A’r llall i werthu siacedi fintij. Gwnaethoch chi £600 wrth werthu’r crysau-t, a £900 wrth werthu’r siacedi fintij. Cyn tynnu unrhyw dreuliau, gwnaethoch chi gyfanswm o dros £1,000. Felly, mae angen i chi roi gwybod i CThEF.

Mae gennych chi ambell brosiect pres poced yn gwneud gwaith dylunio digidol. Rydych chi’n gwerthu celf i’w rhoi ar y wal (y gellir ei lawrlwytho), delweddau y gall pobl eu defnyddio i sgrin-brintio crysau-t, a phortreadau o anifeiliaid anwes.

Gwnaethoch chi £200 o lawrlwytho darnau o gelf i’w rhoi ar y wal, £100 o ddyluniadau i’w sgrin-brintio, ac £800 o bortreadau o anifeiliaid anwes. At ei gilydd, roedd cyfanswm eich incwm yn uwch na £1,000. Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF.

Gwerthu eiddo personol?

Os ydych chi’n gwerthu eiddo personol diangen o bryd i’w gilydd, fel hen deganau a dillad – ar-lein neu wyneb yn wyneb – does dim angen i chi roi gwybod i CThEF fel arfer.

Dim ond os ydych chi wedi gwerthu casgliad neu un eitem bersonol am fwy na £6,000 y mae angen i chi roi gwybod i ni.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywbeth o’r enw Treth Enillion Cyfalaf. Dal yn ansicr? Defnyddiwch ein hofferyn cyflym ar GOV.UK i ddysgu a oes angen i chi roi gwybod i ni a beth i’w wneud nesaf.

Enghraifft o werthu eiddo personol

Rydych chi’n defnyddio llwyfannau ac apiau ar-lein i werthu rhai siwmperi nad ydych chi’n eu gwisgo mwyach. Rydych chi hefyd yn gwerthu anrhegion ac eitemau diangen o bryd i’w gilydd pan fyddwch chi’n clirio pethau o’ch cartref. Does dim un o’r rhain yn werth tua £6,000, o bell fordd. Does dim angen i chi roi gwybod i ni, ac ni fyddwch yn talu unrhyw dreth.

Clywais i fod y rheolau treth wrth werthu ar-lein wedi newid, ac mai dim ond 30 eitem y flwyddyn y gallwch chi eu gwerthu cyn i chi dalu treth. Ydy hyn yn wir?

Nid yw’r rheolau treth wrth werthu ar-lein wedi newid. Gallwch dal i wneud hyd at £1,000 y flwyddyn – yn rhydd o dreth – o brosiectau pres poced, ac rydych wedi gallu gwneud hyn ers 2017.

Yr hyn sydd wedi newid yw bod yn rhaid i lwyfannau ar-lein rannu gwybodaeth â CThEF erbyn hyn os ydych chi’n gwerthu o leiaf 30 o eitemau y flwyddyn trwy ddefnyddio eu gwasanaeth. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod arnoch chi dreth fod neu angen i chi wneud unrhyw beth.

Dysgwch fwy am werthu nwyddau neu wasanaethau ar blatfform digidol ar GOV.UK

Ateb eich cwestiynau

 Mae gen i brif swydd a dwi’n cael fy nhalu drwy TWE. Ydy’r drefn hon hefyd yn sortio unrhyw dreth sydd arnaf o brosiectau pres poced yn awtomatig?      

Nac ydy. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i CThEF am arian rydych chi’n ei wneud “ar yr ochr” fel petai, nid cyfrifoldeb eich prif gyflogwr. Nid yw’ch incwm o brosiectau pres poced yn cael ei nodi ar eich slip cyflog. Os na fyddwch chi’n rhoi gwybod i CThEF am yr enillion ychwanegol hynny, efallai y byddwch chi’n cael cosb.   

Beth os ydw i’n cael slip cyflog am fy mhrosiect pres poced, er enghraifft os ydw i’n gweithio mewn bar gyda’r nos ar ben fy mhrif swydd? 

Os ydych chi’n cael slip cyflog, dylai eich treth eisoes gael ei sortio ar eich cyfer chi, felly does dim angen i chi roi gwybod i ni amdano drwy Hunanasesiad. Ond cofiwch, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os ydych chi’n credu eich bod wedi gordalu neu dandalu treth ar unrhyw slipiau cyflog. Mae’n ychydig yn wahanol os ydych chi eisoes yn llenwi Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Ond, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos unrhyw dreth sydd eisoes wedi’i didynnu o’ch slipiau cyflog (drwy TWE) ar eich Ffurflen Dreth.

Ydw i’n gallu ennill hyd at £1,000 yn rhydd o dreth ar gyfer pob un o fy mhrosiectau pres poced?   

Nac ydych – mae gennych un lwfans rhydd o dreth sy’n werth £1,000 (ar gyfer pob blwyddyn dreth). Mae unrhyw beth rydych chi’n ei ennill o wahanol fathau o brosiectau pres poced i gyd yn cyfrif tuag at hyn.  

Er enghraifft, os ydych chi’n ennill £800 wrth greu cynnwys a £500 wrth werthu crefftau ar-lein, mae hynny’n dod i £1,300. Byddai angen i chi roi gwybod i CThEF am ei fod yn uwch na’r lwfans o £1,000.   

Beth sy’n digwydd os dydw i ddim yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad nac yn talu treth ar fy incwm prosiect pres poced pan ddylwn i?       

Os oedd angen i chi dalu treth ar eich incwm, ond os na wnaethoch chi roi gwybod i ni amdano, efallai y byddwch yn cael cosb. Mae CThEF hefyd yn codi llog ar unrhyw dreth a delir yn hwyr – felly po hiraf y byddwch chi’n gohirio ei thalu, y mwyaf a allai fod arnoch chi. Efallai y byddwch hefyd yn cael cosbau os nad ydych chi’n talu’ch treth mewn pryd.

Ddylwn i gadw cofnodion o beth rydw i’n ei brynu a’i werthu?   

Yn bendant. Eich cyfrifoldeb chi yw cadw cofnodion llawn a chywir o’r holl werthiannau, incwm a threuliau busnes – hyd yn oed os ydych chi’n defnyddio asiant treth neu gyfrifydd. Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch i lenwi eich Ffurflenni Treth yn gywir. Darllenwch ragor am gadw eich cofnodion cyflog a threth.     

Alla i ddefnyddio asiant treth neu gyfrifydd i helpu?   

Gallwch benodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan fel ffrind, perthynas neu asiant treth fel cyfrifydd neu lyfrifwr.  

Beth os na wnes i dalu treth ar fy incwm prosiect pres poced ar gyfer blynyddoedd blaenorol?     

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw trefn ar eich materion treth – gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r hyn sydd arnoch cyn gynted ag y gallwch, a siaradwch â ni cyn gynted â phosibl os nad ydych chi wedi talu hyn ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.  Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud os nad ydych chi wedi rhoi gwybod i CThEF am yr incwm.   

Rydyn ni yma i helpu pobl i fod ar y trywydd iawn gyda’u trethi ac osgoi unrhyw ddirwyon neu gosbau. Mae ein gwasanaethau cymorth yn gallu helpu i ddod o hyd i ffordd ymarferol o helpu i roi trefn ar eich materion treth. Er enghraifft, os na allwch chi dalu’ch bil treth yn llawn, mae’n bosibl y gallwch drefnu cynllun talu er mwyn i chi dalu fesul rhandaliad. Yr enw ar hyn yw trefniant ‘Amser i Dalu’.   

Byddwn ni bob amser yn ceisio datrys unrhyw broblemau a dod o hyd i ateb.  

Clywais i fod dim angen i mi wneud dim byd hyd nes i mi ennill dros £3,000?   

Nid yw hynny’n wir. Os ydych chi’n ennill dros £1,000 o brosiectau pres poced, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF o hyd.  

Ar hyn o bryd, rydych chi’n rhoi gwybod i CThEF drwy gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Fodd bynnag, mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod offeryn rhoi gwybod ar-lein newydd ar ei ffordd erbyn 2029.   
  
Pan fydd e’n fyw, byddwch chi’n gallu ei ddefnyddio i roi gwybod i CThEF os ydych chi’n ennill rhwng £1,000 a £3,000 o brosiectau pres poced – yn hytrach na gorfod cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad.   
  
Dylai hyn fod ychydig yn llai o waith i chi, a dylai arbed amser i chi hefyd. Byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon unwaith y bydd yr offeryn rhoi gwybod newydd yn barod i fynd. Ond am y tro, gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm i weld yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Rhowch eich barn

Rydyn ni eisiau clywed eich barn am y wefan hon i’n helpu i’w gwella.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi.

Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.