Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall pryd i roi gwybod i CThEF am ddarparu gwasanaethau fel prosiect pres poced. Mae hyn yn cynnwys y rheolau treth ar gyfer gyrru nwyddau i’w dosbarthu, rhoi gwersi, mynd â chŵn am dro, garddio, a mwy.
Wedi gwneud mwy na £1,000 yn y flwyddyn dreth ddiwethaf?
Os yw’n dod o ddarparu gwasanaethau, yn ogystal ag unrhyw brosiectau pres poced eraill, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF. Cofiwch – os ydych chi’n gwneud sawl prosiect pres poced, mae’n rhaid i chi gyfrifo cyfanswm eich incwm o bob un ohonynt. Mae’r flwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill i 5 Ebrill.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar yr arian a wnaethoch o brosiectau pres poced os oedd cyfanswm eich incwm, gan gynnwys eich prif swydd, yn uwch na’r lwfans personol sylfaenol o £12,570
Cyfanswm eich incwm yw’r swm rydych chi’n ei ennill cyn ystyried treuliau. Nid yw hyn yr un peth ag elw.
Wedi gwneud £1,000 neu lai na hyn? Does dim angen i chi roi gwybod i ni am hynny.
Sut i roi gwybod i CThEF os oes angen i chi wneud hynny
Yn y lle cyntaf, dylech wirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm ychwanegol.
Os oes angen i chi roi gwybod i ni am yr arian rydych wedi’i wneud o brosiectau pres poced, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad fel unig fasnachwr.
Mae hynny oherwydd bod CThEF yn debygol o nodi eich prosiectau pres poced fel “masnachu” – gan eich bod yn cael incwm wrth werthu nwyddau neu wasanaethau.
Bydd angen i chi wneud hyn erbyn 5 Hydref.
Rhai enghreifftiau o brosiectau gwasanaeth sy’n rhoi pres poced:
- dosbarthu bwyd neu barseli
- garddio a gwaith atgyweirio
- gwarchod plant
- mynd â chŵn am dro neu warchod anifeiliaid anwes
- rhoi gwersi
- glanhau
- llogi offer
- gyrru tacsi neu rannu teithiau
Ydy’r rheolau yr un fath os ydych chi’n gweithio trwy ddefnyddio apiau?
Ydyn. P’un a ydych chi’n gweithio drwy ddefnyddio apiau dosbarthu neu lwyfannau rhoi gwersi, os gwnaethoch chi dros £1,000 yn y flwyddyn dreth ddiwethaf, mae angen i chi roi gwybod i ni. Does dim gwahaniaeth p’un a ydych yn cael cwsmeriaid trwy ddefnyddio ap, ar lafar, neu unrhyw ffordd arall – rhaid i bawb ddilyn yr un rheolau.
Ateb eich cwestiynau
Mae gen i brif swydd a dwi’n cael fy nhalu drwy TWE. Ydy’r drefn hon hefyd yn sortio unrhyw dreth sydd arnaf o brosiectau pres poced yn awtomatig?
Nac ydy. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i CThEF am arian rydych chi’n ei wneud “ar yr ochr” fel petai, nid cyfrifoldeb eich prif gyflogwr. Nid yw’ch incwm o brosiectau pres poced yn cael ei nodi ar eich slip cyflog. Os na fyddwch chi’n rhoi gwybod i CThEF am yr enillion ychwanegol hynny, efallai y byddwch chi’n cael cosb.
Beth os ydw i’n cael slip cyflog am fy mhrosiect pres poced, er enghraifft os ydw i’n gweithio mewn bar gyda’r nos ar ben fy mhrif swydd?
Os ydych chi’n cael slip cyflog, dylai eich treth eisoes gael ei sortio ar eich cyfer chi, felly does dim angen i chi roi gwybod i ni amdano drwy Hunanasesiad. Ond cofiwch, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os ydych chi’n credu eich bod wedi gordalu neu dandalu treth ar unrhyw slipiau cyflog. Mae’n ychydig yn wahanol os ydych chi eisoes yn llenwi Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Ond, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos unrhyw dreth sydd eisoes wedi’i didynnu o’ch slipiau cyflog (drwy TWE) ar eich Ffurflen Dreth.
Ydw i’n gallu ennill hyd at £1,000 yn rhydd o dreth ar gyfer pob un o fy mhrosiectau pres poced?
Nac ydych – mae gennych un lwfans rhydd o dreth sy’n werth £1,000 (ar gyfer pob blwyddyn dreth). Mae unrhyw beth rydych chi’n ei ennill o wahanol fathau o brosiectau pres poced i gyd yn cyfrif tuag at hyn.
Er enghraifft, os ydych chi’n ennill £800 wrth greu cynnwys a £500 wrth werthu crefftau ar-lein, mae hynny’n dod i £1,300. Byddai angen i chi roi gwybod i CThEF am ei fod yn uwch na’r lwfans o £1,000.
Beth sy’n digwydd os dydw i ddim yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad nac yn talu treth ar fy incwm prosiect pres poced pan ddylwn i?
Os oedd angen i chi dalu treth ar eich incwm, ond os na wnaethoch chi roi gwybod i ni amdano, efallai y byddwch yn cael cosb. Mae CThEF hefyd yn codi llog ar unrhyw dreth a delir yn hwyr – felly po hiraf y byddwch chi’n gohirio ei thalu, y mwyaf a allai fod arnoch chi. Efallai y byddwch hefyd yn cael cosbau os nad ydych chi’n talu’ch treth mewn pryd.
Ddylwn i gadw cofnodion o beth rydw i’n ei brynu a’i werthu?
Yn bendant. Eich cyfrifoldeb chi yw cadw cofnodion llawn a chywir o’r holl werthiannau, incwm a threuliau busnes – hyd yn oed os ydych chi’n defnyddio asiant treth neu gyfrifydd. Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch i lenwi eich Ffurflenni Treth yn gywir. Darllenwch ragor am gadw eich cofnodion cyflog a threth.
Alla i ddefnyddio asiant treth neu gyfrifydd i helpu?
Gallwch benodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan fel ffrind, perthynas neu asiant treth fel cyfrifydd neu lyfrifwr.
Beth os na wnes i dalu treth ar fy incwm prosiect pres poced ar gyfer blynyddoedd blaenorol?
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw trefn ar eich materion treth – gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r hyn sydd arnoch cyn gynted ag y gallwch, a siaradwch â ni cyn gynted â phosibl os nad ydych chi wedi talu hyn ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol. Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud os nad ydych chi wedi rhoi gwybod i CThEF am yr incwm.
Rydyn ni yma i helpu pobl i fod ar y trywydd iawn gyda’u trethi ac osgoi unrhyw ddirwyon neu gosbau. Mae ein gwasanaethau cymorth yn gallu helpu i ddod o hyd i ffordd ymarferol o helpu i roi trefn ar eich materion treth. Er enghraifft, os na allwch chi dalu’ch bil treth yn llawn, mae’n bosibl y gallwch drefnu cynllun talu er mwyn i chi dalu fesul rhandaliad. Yr enw ar hyn yw trefniant ‘Amser i Dalu’.
Byddwn ni bob amser yn ceisio datrys unrhyw broblemau a dod o hyd i ateb.
Clywais i fod dim angen i mi wneud dim byd hyd nes i mi ennill dros £3,000?
Nid yw hynny’n wir. Os ydych chi’n ennill dros £1,000 o brosiectau pres poced, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF o hyd.
Ar hyn o bryd, rydych chi’n rhoi gwybod i CThEF drwy gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Fodd bynnag, mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod offeryn rhoi gwybod ar-lein newydd ar ei ffordd erbyn 2029.
Pan fydd e’n fyw, byddwch chi’n gallu ei ddefnyddio i roi gwybod i CThEF os ydych chi’n ennill rhwng £1,000 a £3,000 o brosiectau pres poced – yn hytrach na gorfod cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Dylai hyn fod ychydig yn llai o waith i chi, a dylai arbed amser i chi hefyd. Byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon unwaith y bydd yr offeryn rhoi gwybod newydd yn barod i fynd. Ond am y tro, gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm i weld yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Rhowch eich barn
Rydyn ni eisiau clywed eich barn am y wefan hon i’n helpu i’w gwella.
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi.
Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.